Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 PDF 304 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
|
|||||||||||||
Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Caerdydd PDF 174 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Caerdydd (Atodiad B i’r adroddiad)
2. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd i adolygu Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Caerdydd yn unol â’r ddeddfwriaeth.
|
|||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: fod cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol 2018-19 i gael ei nodi
|
|||||||||||||
Rheoli Risg Corfforaethol - Chwarter 2 2019/20 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi cynnwys y Cofrestr Risg Corfforaethol |
|||||||||||||
Map Dinas Ddeallus Caerdydd PDF 388 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Map Ffordd Dinas Ddeallus ac awdurdodi ymgynghoriad cyhoeddus |
|||||||||||||
Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor PDF 173 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
(1) cymeradwyo cyfrifiad sail dreth y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2020/21;
(2) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 fydd 147,277;
(3) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn yr ardaloedd cymuned sy’n destun praesept fydd fel a ganlyn;
(4) y trefniadau ar gyfer talu praeseptau yn 2020/21 i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i fod drwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod olaf pob mis o fis Ebrill 2020 hyd fis Mawrth 2021 a’r cynghorau Cymuned i fod drwy un taliad ar 1 Ebrill 2020, ac ar yr un sail a hwnnw a ddefnyddiwyd yn 2019/20 ac i’r awdurdodau praesepu gael eu hysbysu yn unol a hynny.
|
|||||||||||||
Cynigion Cyllideb 2020/21 ar gyfer Ymgynghori - Amserlenni Cyhoeddi PDF 114 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
(1) Nodi Sefyllfa’r Gyllideb a ddiweddarwyd ar gyfer 2020/21 adeg y Cam Setliad Dros Dro
(2) Cytuno ar yr ymagwedd arfaethedig ar gyfer cynigion yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb ar gyfer 2020/21 i gael eu cytuno a’i nodi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb yn dechrau ar 19 Rhagfyr 2019 ac yn rhedeg tan 31 Ionawr 2020. Bydd canlyniadau’r broses ymgynghori wedyn yn cael eu hystyried gan y Cabinet wrth baratoi eu cynnig cyllideb terfynol ar gyfer 2020/21.
I’w nodi y bydd y Prif Weithredwr fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig yn cyhoeddi’r holl ymgynghoriadau cyflogaeth statudol ac anstatudol angenrheidiol o safbwynt goblygiadau staffio’r cynigion. |
|||||||||||||
2020/21 Diweddariad ar Fodelu'r Gyllideb a Chynigion i Ymgynghori Arnynt PDF 636 KB Urgent late report, pursuant to Cabinet Procedure Rule 2.3a)vii) Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Cynnig Pecyn yn hen dafarn y Paddle Steamer, Sgwâr Loudoun, Butetown PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chyhoeddir Atodiad yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithriwyd o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau, i fynd i gontract pris a bennwyd (yn dilyn diwydrwydd dyladwy a nodwyd yn yr adroddiad ac y cymeradwywyd dichonolrwydd derbyniol) gyda Willowmead Holdings Ltd ar gyfer datblygu 31 o fflatiau newydd ar hen safle tafarn y Paddle Steamer yn Butetown.
|
|||||||||||||
Gwella Perfformiad Ynni Eiddo Rhentu Preifat ledled Cymru PDF 306 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1.
cymeradwyo’r rhan y
mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gymryd i gydlynu’r ymdrech i
wella perfformiad ynni eiddo rhent preifat ar draws Cymru; gan
gynnwys gweinyddu’r Cyllid Cartrefi Cynnes.
2.
dirprwyo awdurdod i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad
â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i geisio
ffynonellau cyllid newydd i gynorthwyo gyda gwella’r sector
rhent preifat a derbyn a gweinyddu’r cyllid ar ran awdurdodau
Cymru. 3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i amrywio Memorandwm Dealltwriaeth â Rhentu Doeth Cymru sydd yn ei le gydag awdurdodau lleol i adlewyrchu’r newidiadau gofynnol fel a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi’r problemau sydd yn wynebu gwasanaethau sydd yn helpu pobl sengl ddigartref a chytuno ar yr ymateb i’r Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau Cymuned ac oedolion parthed y Porth Person Sengl a osodwyd ger bron yn atodiad 2 yr adroddiad
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Tai Cynorthwyol a Chymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Tai a Chymunedau i fwrw ymlaen ag ail-ffurfio gwasanaethau llety y porth person sengl fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys diweddu rhai contractau.
3. Ei fod i gael ei nodi y ceisir penderfyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant i gynnal ymarferiad caffael ar ran Cynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr i sefydlu gwasanaeth rhanbarthol arbenigol i ddioddefwyr gwrywaidd ar drais domestig a thrais rhywiol.
|
|||||||||||||
Cynnig Datblygu Llanrhymni PDF 408 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nid yw Atodiadau 2-3 a 5-7 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) cytuno ar y strategaeth ddatblygu a osodwyd ger bron yn yr adroddiad i ddarparu pont newydd a ffordd gyswllt rhwng ystâd Llanrhymni a’r A48
(2) dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu i farchnata tri pharsel o dir o eiddo’r Cyngor i’w gwaredu fel y dangoswyd yn Atodiad 4 ac i ddod nôl i gyfarfod Cabinet yn y dyfodol i gael awdurdod i gwblhau’r trafodion.
(3) Cytundeb i’w roi mewn egwyddor i’r Cyngor gymryd rhan yn cyflawni’r Ganolfan Chwaraeon Awyr Agored sydd wedi ei osod ger bron yn yr Atodiad 6 Cyfrinachol a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu i gytuno ar Benawdau’r Telerau yn unol â’r rhai hynny a nodwyd yn yr Atodiad 7 Cyfrinachol.
|
|||||||||||||
Arena Dan Do - Diweddariad PDF 518 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 1 - 10 yr adroddiad hwn na chyngor cyfreithiol arall y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn na’r atodiadau i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
i) nodi’r cynnydd a wneir â’r broses gaffael i sicrhau datblygwr/gweithredwr consortiwm i gyflawni’r Arena Dan Do newydd;
ii) awdurdodi caffael y buddsoddiad RDC yn unol â’r gwerthusiad annibynnol a’r adroddiad pwrcasu a atodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 7 ac yn rhestr daliadau a atodir yn Atodiad Cyfrinachol 9 ac yn unol â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd yn Atodiad cyfrinachol 4;
iii) cytuno ar y taliad a oedwyd a nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 6 a fydd yn daladwy os bydd Arena Dan Do newydd yn cael ei ddwyn ymlaen ar safle Glanfa’r Iwerydd fel a ddangosir gan y linell goch ar y cynllun a atodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1;
iv) i’w nodi y bydd awdurdodi caffaeliad y buddsoddiad yng nghanolfan y Ddraig Goch yn tanio amlen fforddadwyedd yr Arena Dan Do, a gytunwyd yn wreiddiol fel rhan o Gyllideb y Cyngor a gymeradwywyd yn Chwefror 2019, ac felly yn galw am addasiadau i’r Fframwaith Cyllidebol ar gyfer 2019/20 a gytunwyd gan y Cyngor yn Chwefror 2019.
|