Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Bydd yr adroddiad yn amlinellu strategaeth ddatblygiad ar gyfer Llanrhymni i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithgarwch economaidd yn yr ardal.
Nid yw Atodiadau 2-3 a 5-7 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) cytuno ar y strategaeth ddatblygu a osodwyd ger bron yn yr adroddiad i ddarparu pont newydd a ffordd gyswllt rhwng ystâd Llanrhymni a’r A48
(2) dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu i farchnata tri pharsel o dir o eiddo’r Cyngor i’w gwaredu fel y dangoswyd yn Atodiad 4 ac i ddod nôl i gyfarfod Cabinet yn y dyfodol i gael awdurdod i gwblhau’r trafodion.
(3) Cytundeb i’w roi mewn egwyddor i’r Cyngor gymryd rhan yn cyflawni’r Ganolfan Chwaraeon Awyr Agored sydd wedi ei osod ger bron yn yr Atodiad 6 Cyfrinachol a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu i gytuno ar Benawdau’r Telerau yn unol â’r rhai hynny a nodwyd yn yr Atodiad 7 Cyfrinachol.
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 04/01/2020
Dogfennau Cefnogol: