English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Improving Energy Performance of Private Rented Properties Across Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Mae deddfwriaeth Safon Lleiafswm Effeithlonrwydd Ynni (MEES) yn gofyn bod pob eiddo preifat a rentir yn bodloni lefel Perfformiad Ynni band E neu’n uwch erbyn Ebrill 2020.

Mae’r gallu gan Awdurdodau Lleol i orfodi deddfwriaeth, pan geir methiant i gydymffurfio. Ond, mae gorfodi ar ei ben ei hun yn heriol o ystyried faint o eiddo sydd. Mae strategaeth wella wedi ei gytuno gyda Phaneli o Arbenigwyr ar Amddiffyn y Cyhoedd

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

1.   cymeradwyo’r rhan y mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gymryd i gydlynu’r ymdrech i wella perfformiad ynni eiddo rhent preifat ar draws Cymru; gan gynnwys gweinyddu’r Cyllid Cartrefi Cynnes.

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i geisio ffynonellau cyllid newydd i gynorthwyo gyda gwella’r sector rhent preifat a derbyn a gweinyddu’r cyllid ar ran awdurdodau Cymru.

3.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i amrywio Memorandwm Dealltwriaeth â Rhentu Doeth Cymru sydd yn ei le gydag awdurdodau lleol i adlewyrchu’r newidiadau gofynnol fel a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/12/2019 - Cabinet

Effeithiol O: 04/01/2020

Dogfennau Cefnogol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.