Cylch Gwaith y Pwyllgor:
(a) |
Ystyried a phenderfynu ar bolisïau a materion sy’n codi o’r sefydliad, amodau a thelerau Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion (fel y diffinnir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006), ynghyd ag unrhyw gategori cyflogeion arall a nodir yn y Rheoliadau o bryd i’w gilydd lle bo angen, yn unol â chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad neu amrywiad o ran tâl Prif Swyddogion; |
(b) |
Penderfynu ar geisiadau ar gyfer ail-raddio Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion (fel y diffinnir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006), ynghyd ag unrhyw gategori cyflogeion arall a nodir yn y Rheoliadau o bryd i’w gilydd, p’un ai drwy apêl gan gyflogai yn erbyn penderfyniad i wrthod cais ail-raddio neu i benderfynu ar geisiadau ar gyfer ail-raddio a gefnogir, yn unol â chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad neu amrywiad o ran tâl Prif Swyddog; |
(c) |
Bydd angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n briodol. |
Clerc: Kate Rees.
Ffôn: 02920 872427
E-bost: g.nurton@caerdydd.gov.uk