Diben y Pwyllgor yw penderfynu ar geisiadau cynllunio a gyfeiriwyd atyn nhw i’w hystyried.
Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd 12 gwaith y flwyddyn yn Neuadd y Sir lle caiff y cyfarfod ei we-ddarlledu. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys hyd at 12 o gynghorwyr a benodir i adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.
Mae aelodau’r cyhoedd yn cael siarad os ydynt wedi cyflwyno deiseb i’r Cyngor â dim llai na 50 o lofnodion a chyfeiriadau etholwyr Caerdydd. Mae gan y cais hawl am ymateb ar yr adeg honno, ond, mae hynny ond yn berthnasol os yw’r gwrthwynebydd wedi cofrestru i siarad.
Clerc: Mandy Farnham. E-bost: Mandy.Farnham@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 02920 872618
E-bost: Mandy.Farnham@caerdydd.gov.uk