Gwerthoedd ac Egwyddorion y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol
Bydd y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol yn mynd ati i hyrwyddo a gweithredu cydgyfrifoldeb i sicrhau rhianta da i bob plentyn yng ngofal Cyngor Caerdydd. Cyfawnir hyn drwy raglen waith a dangosyddion perfformiad allweddol y Pwyllgor.
Bydd llais y Plant sy’n Derbyn Gofal yn llywio agenda a blaenoriaethau’r Pwyllgor.
Bydd y Pwyllgor yn sicrhau bod ei agenda yn canolbwyntio ar yr hyn y mae Plant sy’n Derbyn Gofal yn eu nodi yn berthnasol i’w twf a’u datblygiad.
Bydd y Pwyllgor yn monitro gwasanaethau a ddarperir ar draws pob sefydliad statudol a gwirfoddol yn y sector gwirfoddol.
Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd ac Addysg, yr asiantaethau statudol, yn dylanwadu ar ac yn rhannu cyfrifoldeb drwy wrando ar Blant sy’n Derbyn Gofal i ddarparu gwasanaethau perthnasol a deinamig.
StrategaethRhianta Corfforaethol 2021-2024
Cyhoeddwyd Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2021-2024 sy'n amlinellu ein hymrwymiadau, ein heriau a'n camau allweddol i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal ledled y ddinas.
Ganweithio gyda phartneriaid a'r gymuned ehangach, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal er mwyn iddynt fod yn hapus, bod yn ddiogel a ffynnu.
Felrhan o ymgynghoriad â phlant sy'n derbyn gofal, mae pum blaenoriaeth allweddol wedi'u nodi yn y strategaeth yn seiliedig ar eu barn a'u profiadau personol.
Mae’rrhain yn cynnwys:
· Gwellalles emosiynol ac iechyd corfforol
· Gwellcysylltiadau, gwell perthnasoedd
· Cartrefcyfforddus, diogel a sefydlog tra'u bod mewn gofal ac ar ôl hynny
· Cyflawniadaddysgol, cyflogaeth a hyfforddiant
· Dathluein plant a'n pobl ifanc
Clerc: Michele Chesterman. E-bost: Michele.chesterman@cardiff.gov.uk
Ffôn: 02920 873606
E-bost: Mandy.Farnham@caerdydd.gov.uk