Cydbwyllgor Archifau Morgannwg
Caiff Archifau Morgannwg ei weinyddu gan Gydbwyllgor Archifau Morgannwg (CBAM), Pwyllgor o Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig sy’n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Cylch gwaith y pwyllgor yw datblygu a chynnal gwasanaeth archifau ar y cyd ar gyfer y chwech awdurdod lleol sef Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
Caiff y nifer yr aelodau etholedig a ddyrennir i wasanaethu ar gyfer pob awdurdod lleol ei benderfynu ar sail pro-rata yn ôl y boblogaeth.
Pen-y-bont – 2 Aelod
Caerffili – 2 Aelod
Caerdydd – 5 Aelod
Merthyr Tudful – 1 Aelod
Rhondda Cynon Taf – 4 Aelod
Bro Morgannwg – 2 Aelod
Gall hyd at 6 pherson â diddordeb mewn archifau a chofnodion gael eu cyfethol gan y Pwyllgor am gyfnod o ddim mwy na 4 blynedd.
Clerc: Michele Chesterman. E-bost: Michele.chesterman@cardiff.gov.uk
Ffôn: 02920 873606
E-bost: a.redmond@caerdydd.co.uk