Cytunwyd: bod y Cyfarwyddwr dros Gynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yn cymeradwyo'r canlynol:
1) y meini prawf gwerthuso a amlinellir yn yr adroddiad
2) Y cyngor i ddechrau ar y broses gaffael ar gyfer y fframwaith hysbysebu a chaniatáu i awdurdodau lleol eraill Cymru ddefnyddio’r Fframwaith. Bydd y tendr yn cael ei rannu’n 4 lot ar wahân at ddibenion hysbysebu. Lot 1 Cylchfannau, Lot 2 polion lamp a biniau sbwriel, Lot 3 ar gerbydau gwaredu gwastraff y cyngor, Lot 4 - ar sgriniau fideo peiriannau talu ac arddangos.