English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y penderfyniad

Modern.Gov

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

Cytunwyd: bod y Cyfarwyddwr dros Gynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yn cymeradwyo'r canlynol:

 

1)   y meini prawf gwerthuso a amlinellir yn yr adroddiad

2)         Y cyngor i ddechrau ar y broses gaffael ar gyfer y fframwaith hysbysebu a chaniatáu i awdurdodau lleol eraill Cymru ddefnyddio’r Fframwaith. Bydd y tendr yn cael ei rannu’n 4 lot ar wahân at ddibenion hysbysebu. Lot 1 Cylchfannau, Lot 2 polion lamp a biniau sbwriel, Lot 3 ar gerbydau gwaredu gwastraff y cyngor, Lot 4 - ar sgriniau fideo peiriannau talu ac arddangos.

Rhesymau dros y penderfyniad:

I gymeradwyo’r meini prawf gwerthuso a amlinellir yn yr adroddiad.

Y rheswm am y penderfyniad a argymhellir yw: I Gyngor Caerdydd gaffael Contract Hysbysebu trwy broses dendro, wrth greu Fframwaith ar gyfer Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Bydd Cyngor Caerdydd yn cymryd canran o’r arian a grëir gan awdurdodau eraill yn sgil gadael y fframwaith yn agored. Bydd gan yr awdurdodau lleol eraill sydd â’r fframwaith yn ei le’n gallu tynnu ar y cyflenwyr sydd wedi’u rhestru a manteisio ar yr holl fanylebau a osodwyd gan Gyngor Caerdydd.

 

Lotiau ar wahân - o gael fframwaith sydd wedi’i rhannu’n lotiau, dylai hyn gael gwared ar y gofyniad am is-gontractwyr ac o bosib i greu mwy o gystadleuaeth gyda’r potensial hefyd i greu mwy o incwm i’r cyngor.

Incwm i wrthbwyso costau - er enghraifft: costau rhedeg gwasanaeth; arian ar gyfer datblygu gwasanaethau; incwm ar gyfer gwrthbwyso diffygion cymorthdaliadau; ailddosbarthu gorbenion ac arian sy’n gwrthbwyso yn erbyn targedau arbedion. Yn syml, helpu i gefnogi cynaliadwyedd ariannol y gwasanaethau.

Twf economaidd lleol - yn deillio o gynnig cyfleoedd hysbysebu a noddi i fusnesau lleol sy’n werth am arian.

Gwella enw da - darparu llwyfannau hysbysebu i allu helpu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat eraill i roi eu negeseuon ar led.

Cyfleoedd - y posibiliad i helpu awdurdodau lleol eraill sydd â fframwaith gyda manylebau ar gyfer nifer o ffrydiau ariannu yn eu lle. Hefyd, gallai’r cyngor fanteisio trwy gymryd canran fechan o incwm unrhyw awdurdod sy’n defnyddio’r fframwaith. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2020

Effeithiol O: 18/02/2020

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.