Yn ddiweddar gadawodd Gavin McArthur y Gwasanaeth Sifil lle roedd yn Bennaeth Llywodraethu a Sicrwydd i Gyfarwyddiaeth Ystadau’r Weinidogaeth Gyfiawnder. Cyn hynny roedd ganddo rolau uwch reoli mewn swyddogaethau archwilio mewnol mewn llywodraeth leol a chanolog. Mae ei brofiad a’r arbenigedd proffesiynol ym meysydd rheoli mewnol, rheoli risg, llywodraethu, archwilio mewnol a rheoli perfformiad.
Yn dilyn gradd yn y Gwyddorau Daearyddol o Brifysgol Birmingham, daeth Gavin yn gyfrifydd â chymhwyster CIPFA â Chyngor Dinas Coventry lle gwnaeth amryw rolau rheoli ariannol a chyfrifyddu gan gynnwys archwilio.