Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i "baratoi a chyhoeddi asesiadau o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn ei ardal".
Rhaid paratoi a chyhoeddi'r Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) bob pum mlynedd. Fodd bynnag, yn dilyn pandemig Covid-19, bydd rhaid cyflwyno'r ADGP llawn newydd i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2022.
Mae'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cysylltiedig yn nodi mai'r tasgau allweddol y mae angen i'r Awdurdod Lleol eu cyflawni i asesu'r cyflenwad gofal plant yw:
• nodi'r galw am ofal plant
• dadansoddi a oes bylchau a datblygu cynllun gweithredu i gyflawni dyletswydd yr Awdurdod Lleol i sicrhau, "i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, ofal plant digonol i fodloni anghenion lleol rhieni (hynny yw y rhieni sy'n gweithio neu sy'n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant) i'w cynorthwyo i gael gwaith".
Rhaid ystyried teuluoedd sy'n dymuno cael gofal plant:
• trwy’r Gymraeg
• i blant ag anabledd neu angen ychwanegol
• i'r rheiny sy'n dymuno cael gofal plant, a ariennir trwy Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant, talebau a gefnogir gan gyflogwyr neu ofal plant di-dreth, a theuluoedd incwm is.
Gofal plant: canllawiau statudol i awdurdodau lleol (llyw.cymru) https://www.legislation.gov.uk/wsi/2016/88/made
Gofynnir am gymeradwyaeth i gyfieithu ADGP drafft Caerdydd ac i’w roi ar wefan Cyngor Caerdydd ar gyfer y cyfnod ymgynghori statudol o 28 diwrnod
Ceisir cymeradwyaeth i bwerau swyddogion dirprwyedig gymeradwyo'r fersiwn ôl-ymgynghori i'w chyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru erbyn Mehefin 2022
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/11/2021
Angen Penderfyniad: 20 Ion 2022 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoed
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Green