Manylion y mater

Ailgaffael Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus De-ddwyrain Cymru (Sewscap3)

Bu tîm Cynllunio Trefn Ysgolion Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn defnyddio Fframwaith Adeiladu Adeiladau Ysgol a Chyhoeddus de-ddwyrain Cymru ar gyfer arian Band A yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

Felly, mae Cyngor Caerdydd am ad-gaffael y trefniant fframwaith cydweithredol presennol sydd gan RhCT, y daw ei les i ben ar 31 Mawrth 2019, er mwyn bod ganddo gerbyd caffael sy'n cydymffurfio ar gyfer Band B a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2019. Bydd tîm Comisiynu a Chaffael y Cyngor yn ceisio awdurdod gan y Cabinet er mwyn dirprwyo i'r cyfarwyddwr adnoddau i drin â phob agwedd ar gaffael o ran ad-gaffael fframwaith SEWSCAP3 yn cynnwys gosod y meini prawf ar gyfer gwerthuso tendrau i bennu cyflenwyr y fframwaith.

 

Byddai amcan wariant Cyngor Dinas a Sir Caerdydd dros 4 blynedd yn cynnwys arian Band B y 21ain Ganrif, sef £285m; yn ogystal, mae gan 13 awdurdod aelod ddiddordeb rhoi eu henwau ar yr hysbysiad Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y byddai eu hymrwymiadau gwario nhw yn eu cynlluniau dirprwyo eu hunain ond golygai hyn fod cyfanswm gwerth y fframwaith dros £1biliwn.  

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 11/05/2018

Angen Penderfyniad: 14 Meh 2018 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151

Scrutiny Consideration: Green

Penderfyniadau

Eitemau Agenda