Manylion y penderfyniad

Ail-Gaffael Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Adeiladau Ysgol ac Adeiladau Cyhoeddus (Sewscap3) De-ddwyraiin Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Diben:

Bu tîm Cynllunio Trefn Ysgolion Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn defnyddio Fframwaith Adeiladu Adeiladau Ysgol a Chyhoeddus de-ddwyrain Cymru ar gyfer arian Band A yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

Felly, mae Cyngor Caerdydd am ad-gaffael y trefniant fframwaith cydweithredol presennol sydd gan RhCT, y daw ei les i ben ar 31 Mawrth 2019, er mwyn bod ganddo gerbyd caffael sy'n cydymffurfio ar gyfer Band B a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2019. Bydd tîm Comisiynu a Chaffael y Cyngor yn ceisio awdurdod gan y Cabinet er mwyn dirprwyo i'r cyfarwyddwr adnoddau i drin â phob agwedd ar gaffael o ran ad-gaffael fframwaith SEWSCAP3 yn cynnwys gosod y meini prawf ar gyfer gwerthuso tendrau i bennu cyflenwyr y fframwaith.

 

Byddai amcan wariant Cyngor Dinas a Sir Caerdydd dros 4 blynedd yn cynnwys arian Band B y 21ain Ganrif, sef £285m; yn ogystal, mae gan 13 awdurdod aelod ddiddordeb rhoi eu henwau ar yr hysbysiad Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y byddai eu hymrwymiadau gwario nhw yn eu cynlluniau dirprwyo eu hunain ond golygai hyn fod cyfanswm gwerth y fframwaith dros £1biliwn.  

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cytuno ar ddechrau’r gwaith o ail-gaffael Fframwaith Adeiladu Cydweithrediadol (Sewscap3) Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion, De-ddwyrain Cymru (fel y nodir yn yr adroddiad) a

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, i gyflawni’r holl agweddau ar gaffael , (gan gynnwys pennu’r fethodoleg werthuso, ac ychwanegu contractwyr llwyddiannus at y fframwaith) ac ar ôl hynny delio gyda gweithredu trefniadau’r fframwaith, gan gynnwys unrhyw faterion ategol sy’n gysylltiedig.

Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2018

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2018 - Cabinet

Effeithiol O: 27/06/2018

Dogfennau Cefnogol: