PENDERFYNWYD:
1. nodi’r camau sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith i sicrhau llety digartref parhaol ychwanegol i gymryd lle darpariaeth dros dro a sicrhau na fydd llai o wasanaethau ar gael i ddefnyddwyr wrth i fesurau’r cyfnod cloi’n gael eu llacio
2. cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau digartref fel y nodir yn yr adroddiad gan gynnwys yr angen i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar gyllid parhaus i sicrhau bod y strategaeth “Dim Mynd yn Ôl” ar gyfer pobl ddigartref sengl yn gynaliadwy
3. nodi, os na cheir swm y cyllid a nodir yn yr adroddiad, y bydd angen adolygu a newid y dewisiadau ar gyfer cynlluniau i gyflawni costau gweithredu is ac sydd o fewn y cyllidebau sydd ar gael, bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar effeithiolrwydd cyffredinol y dull.
4. cymeradwyo rhoi contract i Beattie Passive i greu 50 uned lety dros dro ar safle’r Ffatri Nwy am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad hwn.
5. dirprwyo cyfrifoldeb am brydlesu eiddo domestig preifat dan Gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru i’r Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Cynorthwyol yn dilyn cyngor priodol gan yr adran Ystadau Strategol.