Craffu, mesur a hybu gwelliant ym mherfformiad y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes adfywio economaidd.
• Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
• Mewnfuddsoddiad a marchnata Caerdydd
• Strategaeth Economaidd a Chyflogaeth
• Cyllid Ewropeaidd a Buddsoddiad
• Cymorth i Fentrau Bychan i Ganolig
• Awdurdod Harbwr Caerdydd
• Dysgu Gydol Oes
• Canolfannau Hamdden
• Datblygu Chwaraeon
• Parciau a Mannau Gwyrdd
• Llyfrgelloedd, y Celfyddydau a Diwylliant
• Adeiladau Dinesig
• Digwyddiadau a Thwristiaeth
• Projectau Strategol
• Arloesedd a Chanolfannau Technoleg
• Hyfforddiant Lleol a Menter
Asesu effaith ein partneriaethau gyda, adnoddau a gwasanaethau a gynigir gan sefydliadau allanol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.