Nid yw Atodiadau B2 B3,B4 a B5 yn Atodiad B yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi dan Adran 12A Rhan 4 paragraff 14 yn unol ag Adran 12A Rhan 5 paragraff 21 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Ystyrir bod, o ystyried holl amgylchiadau’r achos, budd y cyhoedd o gynnal yr eithriad yn bwysicach na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Efallai y bydd yn angenrheidiol i aelodau’r wasg a’r cyhoedd adael yr ystafell gyfarfod er mwyn i’r Pwyllgor a’r tystion drafod yr wybodaeth sydd yn yr atodiadau cyfrinachol.
(a) Bydd y Cynghorydd Peter Bradbury (Aelod Cabinet – Datblygu Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol) yn cael ei wahodd i wneud datganiad byr.
(b) Bydd Neil Hanratty (Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd) a Roger Hopwood (Rheolwr Gweithredol – Rheolwr Celfyddydau a Theatrau) yn bresennol ac yn rhoi cyflwyniad.
(c) Gwahoddir cynrychiolwyr o’r Undebau Llafur i wneud sylwadau
(d) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol: