Eitem Agenda

Crioeso

Ar ddechrau’r cyfarfod croesawodd y Cadeirydd y ddau Aelod Annibynnol sydd newydd eu penodi, Gavin McArthur a David Price.  Gwnaeth y ddau Aelod Annibynnol ddatganiadau i gyflwyno eu hunain.

 

Yn ogystal, gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau nodi y byddai Janet McNicholas o Swyddfa Archwilio Cymru yn ymddeol ddiwedd mis Chwefror.  Gofynnodd y Cadeirydd am gymeradwyaeth y Pwyllgor i anfon llythyr at Janet McNicholas yn diolch iddi am ei chyfraniad i waith y Pwyllgor a dymuno’n dda iddi yn ei hymddeoliad.