Cytunodd y Cyngor, yn ei gyfarfod blynyddol ar 25 Mai 2023, ar y Cylch Gorchwyl canlynol:
|
Ymgymryd â swyddogaeth yr Awdurdod Lleol o ran penodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd; |
|
Parhau i adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth o staff, adeiladau ac adnoddau eraill a ddarperir i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd yr Awdurdod; |
|
Gwneud adroddiadau, o leiaf unwaith y flwyddyn, i’r Cyngor llawn mewn perthynas â’r materion hyn. |