Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol sydd wedi ei gyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn Cyfarfod y Cyngor 4 (b)(iv) ar 29 Medi 2023.
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Joel Williams
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Callum Davies
Y Cynghorwyr: Brown-Reckless, Cowan, Davies, Driscoll, Lancaster, Littlechild, Melbourne, Reid-Jones, Robson
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
1. Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth Lafur Cymru Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, gan leihau'r terfyn cyflymder diofyn yng Nghymru o 30 mya i 20 mya.
2. Roedd gan ddeiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y terfyn cyflymder cyffredinol 20mya o ddydd Gwener 29 2023 dros 447,000 o lofnodion. Mae cyfanswm y llofnodion yn rhagori ar nifer y pleidleisiau etholaethol a gafodd Llafur Cymru ledled Cymru yn Etholiadau'r Senedd yn ddiweddar yn 2021.
3. Y gost uniongyrchol i economi Cymru o derfynau cyflymder diofyn 20 mya fydd £4.5 biliwn dros gyfnod o 30 mlynedd. Cyfaddefodd Llywodraeth Cymru y gallai hyn gyrraedd £8.9 biliwn.
4. Mae gan Gyngor Caerdydd, fel Awdurdod Priffyrdd Lleol, y pwerau cyfreithiol i eithrio ffyrdd yn y ddinas rhag lleihau i'r terfyn cyflymder diofyn i 20 mya. Mae'r Cyngor ond wedi defnyddio'r p?er hwn i eithrio nifer fach o ffyrdd yn y Ddinas rhag lleihau cyflymder i 20 mya.
5. Mae'r newid i derfynau cyflymder 20mya diofyn yng Nghaerdydd wedi cynyddu tagfeydd ac amseroedd teithio i ddefnyddwyr ffyrdd gan gynnwys cwmnïau bysus, gan gynnwys Bws Caerdydd; ased sy'n eiddo i’r Cyngor.
6. Mae'r newid i derfynau cyflymder 20 mya diofyn yng Nghaerdydd wedi cynyddu amseroedd ymateb ar gyfer galwadau brys, gan gynnwys gwasanaethau brys a cherbydau sydd wedi torri/sy’n cael ei hadfer felly o bosibl mae’n rhoi'r cyhoedd mewn mwy o berygl o niwed.
7. Bydd y gostyngiad i derfynau cyflymder diofyn o 20 mya yn effeithio ar ddanfoniadau trwy arafu gyrwyr a gallai hyn gynyddu'r amser ar gyfer dosbarthu ac ychwanegu costau ymlaen i fusnesau a/neu gwsmeriaid.
8. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r p?er i Awdurdodau Priffyrdd Lleol gyflwyno terfynau cyflymder rhan-amser lle mae awdurdod priffyrdd o'r farn bod eithriad i'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn briodol ar rai adegau ond nid ar adegau eraill. Nid yw'n ymddangos bod Cyngor Caerdydd wedi cymhwyso'r p?er hwn i ffyrdd a ddylai fod wedi aros ar 30 mya.
9. Mae'r gost o gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 mya yng Nghymru wedi costio £32 miliwn. Gallai'r arian hwn fod wedi cael ei wario'n ddoethach ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen gan gynnwys ein GIG, ysgolion a llenwi ein tyllau yn y ffyrdd.
10. Nid yw'r newid i derfynau cyflymder diofyn 20 mya yn cyd-fynd â sylfaen polisi "cryfach, tecach, gwyrddach" y Cyngor.
Mae'r Cyngor hwn yn galw ar Gyngor Caerdydd, wrth weithredu fel yr Awdurdod Priffyrdd Lleol;
1. I eithrio pob ffordd yng Nghaerdydd a oedd â therfynau cyflymder o 30 mya cyn cyflwyno Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 rhag aros ar 20 mya ac felly dychwelyd y ffyrdd hyn yn ôl i derfynau cyflymder 30 mya.
2. I gynnal adolygiad brys i effeithiau andwyol y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya a chyhoeddi canfyddiadau o fewn 3 mis i ddyddiad trafod y Cynnig hwn.
3. Pan fydd ffyrdd yng Nghaerdydd yn dychwelyd yn ôl i derfynau cyflymder 30 mya; i weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod unrhyw geisiadau i leihau terfynau cyflymder ffyrdd i 20 mya yn cael eu gwneud ar sail fesul [1]achos.
Dogfennau ategol: