Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig - 3

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Rodney Berman

Eiliwyd gan y Cynghorydd Joseph Carter

 

Noda’r cyngor y canlynol:

  1. Nid yw llawer o drigolion a chymunedau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn teimlo bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â nhw'n briodol cyn gwneud penderfyniadau allweddol sy'n effeithio ar eu bywydau ac ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt.
  2. Yn aml, ni hysbysebir ymgynghoriadau'r cyngor yn effeithiol i breswylwyr a allai gael eu heffeithio gan benderfyniadau, yn rhannol oherwydd gorddibyniaeth ar ymgyngoriadau'n cael eu hyrwyddo ar lwyfannau digidol yn bennaf.

 

Mae’r Cyngor hwn yn credu:

  1. Er na ddylid ystyried ymgynghori yn syml fel feto, mae defnydd da a phriodol o ymgynghori yn arwain at wneud penderfyniadau gwell.
  2. Er mwyn i ymgynghori gael ei ystyried yn ystyrlon, dylid ei wneud cyn belled ag y bo modd cyn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys pan wneir penderfyniadau mewn egwyddor.
  3. Dylid tybio y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal cyn yr pob penderfyniad allweddol a fydd yn effeithio ar drigolion a chymunedau.

 

Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i roi'r egwyddorion a amlinellir uchod ar waith yn gadarn ac i adolygu Strategaeth Cyfranogiad y cyngor yn unol â hynny er mwyn rhoi mwy o hyder i drigolion Caerdydd y bydd eu barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau'r cyngor yn cael eu gwneud yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: