Eitem Agenda

Strategaeth Gwasanaethau Plant

Ymgymryd â chraffu cyn penderfynu mewn perthynas â'r Strategaeth Gwasanaethau Plant sy'n cwmpasu'r amserlen 2023-26.  Mae'r Strategaeth yn ymdrin â chynnydd hyd yma yn ogystal â sut y bydd y cyngor a'i bartneriaid yn cyrraedd eu prif nodau mewn tri maes ffocws allweddol - pobl, lleoedd ac ymarfer. 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod yr eitem yncaniatáu i'r Aelodau ymgymryd â gwaith craffu cyn penderfynu mewn perthynas â'r strategaeth Gwasanaethau Plant, gan gwmpasu'r amserlen ar gyfer 2023-26. Mae'r strategaeth yn ymdrin â'r cynnydd hyd yma, yn ogystal â sut y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn cyflawni ei brif nodau yn y tri maes ffocws allweddol: pobl; lle; ac ymarfer.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Ashley Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Sarah McGill, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol; Deborah Driffield, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Lister i wneud datganiad, lle amlinellodd y weledigaeth y tu ôl i'r strategaeth a heriau pwysau cyllidebol, cymhlethdod achosion, digonolrwydd lleoedd, a recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol.

 

Gwnaeth Sarah McGill ddatganiad yn cyflwyno'r adroddiad, lle dywedodd wrth yr Aelodau bod y camau a amlinellir yn y strategaeth yn ymarferol, yn bragmatig ac yn gyflawnadwy, a bod y cynlluniau'n seiliedig ar dystiolaeth a data.

 

Rhoddodd Deborah Driffield gyflwyniad, lle amlinellodd y cyflawniadau yn ystod y strategaeth flaenorol a'r heriau y mae'r strategaeth newydd yn mynd i'r afael â nhw. Mae strategaeth y gweithlu yn nodi egwyddorion allweddol a bydd cynllun gweithredu yn cael ei roi ar waith gydag amserlenni clir. Mae'r strategaeth gomisiynu yn nodi sut y bydd y Cyngor yn cwrdd â gofynion yn gorfforaethol a gyda phartneriaid; ac mae'r Strategaeth Llety yn nodi'r ddarpariaeth sy'n angenrheidiol i gyflawni nod y Cyngor o sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu'n agosach at adref. Cafwyd amlinelliad o gynlluniau recriwtio a llety staff.

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau, ac mae’r drafodaeth wedi’i chrynhoi isod:

 

Roedd yr aelodau am wybod a oedd hi'n haws recriwtio cynorthwywyr gwaith cymdeithasol na gweithwyr cymdeithasol. Dywedodd swyddogion ei bod yn haws recriwtio cynorthwywyr gwaith cymdeithasol ac ymarferwyr gofal cymdeithasol, a bod cymhwyster newydd yn cael ei ddatblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gan lawer o ymgeiswyr radd a phrofiad perthnasol, ac mae'r Cyngor yn eu hyfforddi mewn lleoliadau cyn iddynt fynd i'r brifysgol a dod yn weithwyr cymdeithasol cymwysedig. Mae tystiolaeth anecdotaidd bod recriwtio cynorthwywyr gwaith cymdeithasol yn dod yn anoddach.

 

Trafododd yr aelodau ostwng y cymhwyster proffesiynol gofynnol ar gyfer gweithiwr cymdeithasol i ddiploma. Mynegwyd barn fod y lefel uchel o gymhwyster yr oedd ei angen yn atal recriwtio. Dywedodd swyddogion fod y Cyngor yn datblygu model oedolion dibynadwy, lle mae ymarferydd gofal cymdeithasol medrus yn cael ei neilltuo i bob teulu ac mae gweithwyr cymdeithasol yn symud i mewn ac allan o achosion. Mae llwybr gyrfa dwy ran ar gyfer rheolwyr a gweithwyr cymdeithasol arbenigol ar yr un raddfa gyflog hefyd yn cael ei archwilio. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y gallai fod sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru am lwybrau trosi i bobl heb raddau perthnasol. Mae graddau trosi gyda lleoliadau ar gael yn Lloegr ac roedd yn anodd gweld pam na ellid eu cynnig yng Nghymru. Mae angen gwaith hefyd ar gadw a sicrhau bod gan weithwyr cymdeithasol lwythi achosion diogel. Mae nifer y bobl sy'n gwneud cais am raddau gwaith cymdeithasol yn gostwng ac mae angen atebion arloesol.

 

Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o wneud cyflogaeth gyda Chyngor Caerdydd yn fwy deniadol i ddarpar recriwtiaid gwaith cymdeithasol, drwy gynnig mwy o amser i ymlacio a gorffwys yn yr wythnos ar gyfer gweithgarwch corfforol neu ymwybyddiaeth ofalgar. Dywedodd swyddogion y bu sesiynau peilot gyda seicolegwyr yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol sy'n profi trawma ail-law a blinder tosturi, a byddai strategaeth y gweithlu yn archwilio cyflogi seicolegwyr. Anogir gweithwyr cymdeithasol i fynychu sesiynau lles ac i gymryd seibiannau, gweithio oriau rhesymol a chymryd eu gwyliau. Awgrymwyd y gallai hysbysebion recriwtio hysbysebu atyniadau Caerdydd fel lle i fyw, ac ystyried ailgyflwyno ffi adleoli.

 

Roedd Aelodau'n poeni nad oedd yn bosib i bobl gael cyflog teg wrth ailhyfforddi fel gweithwyr cymdeithasol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Cyngor am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddod yn weithwyr cymdeithasol er mwyn denu ystod eang o ymgeiswyr. Mae'r Cyngor hefyd yn pryderu y dylai fod chwarae teg ar gyfer recriwtio gweithwyr cymdeithasol ledled Cymru.

 

Roedd yr Aelodau eisiau gwybod a oedd gan y Cyngor gysylltiad â Lleisiau Rhieni yng Nghymru, sy'n eirioli dros blant â niwroamrywiaethau ac anableddau dysgu. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yna gydnabyddiaeth bod mwy y gellid ei wneud yngl?n â phlant ag anghenion ac anableddau cymhleth, gan gynnwys darpariaeth ar ôl ysgol a gwyliau'r haf. Dywedodd swyddogion nad oedden nhw'n gwybod a oedd y sefydliad hwnnw'n un y bu'r Cyngor yn gweithio gydag ef, ond y bydden nhw'n ymchwilio.

 

Mynegodd yr aelodau bryder ei bod yn anodd i'r Cyngor gystadlu â'r cyflogau sy'n cael eu talu i weithwyr cymdeithasol gan asiantaethau. Dywedodd swyddogion fod dull cenedlaethol o ddefnyddio staff asiantaeth dan ystyriaeth. Mynegwyd y gobaith y gallai ystyried y llwybrau dilyniant gyrfa paralel ganiatáu i'r Cyngor gynnig cyflogau deniadol i weithwyr cymdeithasol asiantaeth.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ar fodel Gogledd Swydd Efrog. Dywedodd swyddogion ei fod yn fodel achrededig a ddatblygwyd yng Ngogledd Swydd Efrog, ac ystyriwyd ei fod yn cyd-fynd yn dda â'r ddarpariaeth gwasanaeth yng Nghaerdydd. Mae'r Cyngor wedi mynd trwy broses drwyadl i gael ei dderbyn fel partner a chael ei achredu gan Ogledd Swydd Efrog.

 

Roedd yr aelodau am wybod a yw'r Cyngor yn edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill, ac a yw Caerdydd wedi cael ei defnyddio fel arfer gorau yn unrhyw le. Dywedodd swyddogion bod arfer gorau yn cael ei rannu ar draws Cymru. Caerdydd yw'r canolbwynt ar gyfer y peilot llys cyffuriau ac alcohol, ac mae diddordeb wedi bod yng ngwaith arweiniol y Cyngor a datblygiad gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr gofal cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am waith partneriaeth y Cyngor gyda Heddlu De Cymru ar droseddau cyllyll. Dywedodd swyddogion fod cefnogaeth ar draws y sector cyhoeddus i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd canlyniadau'n cael eu gweld o'r ffocws ar droseddau treisgar gyda phartneriaid heddlu. Roedd gostyngiad i'w groesawu yn nifer y bobl ifanc sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, ond mae'n bwysig sicrhau bod ymyriadau priodol ar gyfer pan ddônt i sylw'r Gwasanaethau Plant. Mynegwyd y gobaith y gellid rhannu sesiwn friffio ar y model diogel i wneud Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud i atal pobl ifanc rhag cael eu hecsbloetio'n droseddol.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad a oedd y pandemig Covid yn gyfrifol am y cynnydd mewn atgyfeiriadau ac asesiadau lles, ac a oedd y niferoedd bellach yn sefydlogi neu'n gostwng. Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnydd yn gysylltiedig â'r pandemig. Ni fu gostyngiad sylweddol yn syth ar ôl diwedd y pandemig, ond mae'r niferoedd bellach yn dechrau sefydlogi.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch a oedd y ffigurau ar gyfer nifer y swyddi gwag sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad B yr adroddiad yn ymdrin ag amser y cyfarfod Craffu diwethaf. Dywedodd swyddogion fod 20 o swyddi gweithwyr cymdeithasol Gradd A profiadol ar y pryd yn wag, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi’u llenwi gan gynorthwywyr gwaith cymdeithasol neu swyddi adnoddau gwaith cymdeithasol. Ymddiheurodd swyddogion am y ffordd y cyflwynwyd y wybodaeth yn yr Atodiad.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ynghylch a oedd yna gynllun cyflawni ac a fyddai'r Pwyllgor yn cael ei ddiweddaru ar gynnydd. Cadarnhaodd swyddogion fod ‘na, ac y byddai'r Pwyllgor yn cael ei ddiweddaru pe dymunir.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am waith partneriaethau statudol newydd, yn arbennig cynnwys yr ALl a'r byrddau iechyd, mewn perthynas â'r strategaeth agosach at adref. Dywedodd swyddogion fod enghreifftiau o arfer da, er enghraifft wrth ddatblygu gwasanaethau integredig ar gyfer plant sy'n profi problemau iechyd meddwl, ond roedd angen gwneud mwy. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bu diffyg eglurder tan yn ddiweddar am yr hyn roedd gwahanol wasanaethau yn ei wneud, a bod gwaith sylweddol wedi bod o ran datblygu'r ddealltwriaeth honno a gwneud cynnydd mewn gwaith partneriaeth. Mae dadansoddiad wedi datgelu dyblygu ymdrech sylweddol ac mae gwaith ar y gweill i symleiddio trefniadau a sicrhau bod y defnydd mwyaf effeithiol yn cael ei wneud o gapasiti cyfyngedig.

 

Trafododd yr aelodau y broblem o recriwtio gofalwyr maeth a'r diffyg lleoliadau, a cheisio gwybodaeth am sut y gobeithiwyd goresgyn y materion hyn. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod gwaith yn cael ei wneud i recriwtio mwy o ofalwyr maeth mewnol a lleihau'r ddibyniaeth ar asiantaethau maeth annibynnol. Cydnabyddir pwysigrwydd cael opsiynau gwahanol i blant sy'n derbyn gofal. Dywedodd swyddogion fod y tîm rheoli wedi cael ei ailstrwythuro i ganiatáu i uwch reolwr dreulio mwy o amser ar y gwasanaeth maethu. Mae gwybodaeth fanylach am berfformiad ar gael ac mae'r Cyngor wedi llwyddo i gefnogi plant iau i mewn i ofal maeth mewnol, ond ar raddfa lai wrth ddod o hyd i ddarpariaeth fewnol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ar ffiniau gofal. Mae swyddogion yn hyderus y bydd gwelliant yn yr ystadegau.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ar sut mae'r Cyngor yn ymdopi â gosod plant digwmni sy’n ceisio lloches ar fyr rybudd gan y Swyddfa Gartref. Dywedodd swyddogion fod y Cyngor, o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol, yn cael cwota o blant digwmni sy’n ceisio lloches, ond bod eraill yn cyrraedd yn ddirybudd. Mae trefniant amlasiantaethol ar waith ac mae cyfleuster ar gyfer asesu anghenion pobl ifanc a chysylltu â gwasanaethau eraill. Mae pwysau ar adnoddau staff ar draws Cymru gyfan ac mae darpariaeth hyfforddiant ychwanegol wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru.

 

Trafododd yr Aelodau a allai fod yn well weithiau i gymryd mwy o bobl ifanc i mewn i ofal i dorri’r cylch o ddibynnu ar ofal sy’n pontio’r cenedlaethau. Mynegwyd pryder, pe bai ffocws ar leihau niferoedd sy'n mynd i mewn i ofal, efallai y bydd cyfleoedd i helpu unigolion yn cael eu colli. Amlygwyd pwysigrwydd trin achosion yn unigol, yn ogystal â chadw teuluoedd gyda'i gilydd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Nodwyd bod Prifysgol Caerdydd wedi canmol y Cyngor ar y cynllun Pan Fydda i'n Barod. Mynegwyd hyder yng ngwaith rheng flaen staff a'r cymorth rheoli i weithwyr cymdeithasol. Pwysleisiodd swyddogion nad oedd pwysau i gydymffurfio â thargedau. Dylai'r mesuriad adlewyrchu’r hyn sydd er budd gorau'r plentyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor yn mynegi eu sylwadau a'u harsylwadau a gasglwyd yn ystod y ffordd ymlaen. 

Dogfennau ategol: