Noda’r
Cyngor hwn y canlynol:
- Mae parciau a mannau agored Caerdydd yn nodwedd
bwysig o'r ddinas sy'n adnodd gwerthfawr ac yn lle diogel i
drigolion ac ymwelwyr.
- Mae parciau'n fannau lle dylai unigolion a
theuluoedd deimlo'n ddiogel ac yn ystod pandemig y Coronafeirws,
roedd llawer o drigolion yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi eu parc
lleol i allu mynd allan.
- Mae nifer o grwpiau gwirfoddol, gan gynnwys
grwpiau "Cyfeillion", sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr ac yn helpu
i wella ein parciau. Mae'r Cyngor hwn yn diolch iddynt am eu gwaith
caled.
- Mae gwaith ceidwaid parciau yn hanfodol er mwyn
galluogi gwaith a wneir gan grwpiau Cyfeillion a sicrhau bod
parciau Caerdydd yn ddiogel ac yn cael eu rheoli'n
dda.
Mae'r Cyngor hwn hefyd yn nodi y bu
nifer fawr o ddigwyddiadau mewn parciau dros y misoedd diwethaf yn
anffodus, yn amrywio o droseddau difrifol i ymddygiad
gwrthgymdeithasol lefel isel.
Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i
gyflwyno adroddiad sy'n cynnwys:
- Cynyddu'r cyllid sydd ar gael i geidwaid parciau.
Bydd mwy o geidwaid yn helpu i wneud ein parciau'n fwy diogel ac
annog grwpiau Cyfeillion i ddatblygu.
- Polisi ar ble a phryd y mae'n briodol cyflwyno
goleuadau mewn parciau, a pha ymgynghori fyddai'n cael ei gynnal i
nodi unrhyw lwybrau y mae angen eu goleuo.
- Ystyried a ddylai'r Cyngor, ar ôl gofyn am
gyngor gan yr Heddlu, gynnig gwobr am wybodaeth sy'n arwain at
arestiadau pan fydd fandaliaeth ddifrifol yn digwydd mewn
parciau.
Dylid cyflwyno adroddiad o'r fath i'r
Cabinet o fewn pedwar mis.
Cynigiwyd: Y Cynghorydd Adrian
Robson
Eiliwyd: Y Cynghorydd Lyn
Hudson