Eitem Agenda

Penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chymunedau

Ystyried rhestr fer ymgeiswyr ar gyfer swydd Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chymunedau yn dilyn y ganolfan asesu.

(papurau i ddilyn)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Penodiadau ei ailgynnull i dderbyn ac ystyried canfyddiadau’r Ganolfan Asesu.  Roedd gan y Pwyllgor 4 Adroddiad Asesu i'w hadolygu. 

 

Wrth wneud ei benderfyniad, ystyriodd y Pwyllgor gais gwreiddiol pob ymgeisydd, sut sgoriodd pob ymgeisydd yn erbyn cymwyseddau gofynnol y swydd a’r asesiad ysgrifenedig ar bob un o’r tasgau oedd yn trafod cryfderau a sgiliau’r ymgeisydd. Ystyriodd y Pwyllgor y dylid cyflwyno dau ymgeisydd am gyfweliad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr opsiynau pwnc cyflwyno gan osod cwestiynau ar gyfer y broses gyfweld.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    I wahodd ymgeiswyr 15090 ac 15097 am gyfweliad;

2.    rhoi gwybod i’r ymgeiswyr beth fydd testun y cyflwyniad ac y caiff uchafswm o 10 munud ar gyfer hwnnw; a

3.    llunio’r cwestiynau terfynol ar gyfer y pwyllgor cyfweld.

 

 

Dogfennau ategol: