Cynigiwyd gan: Y Cyng. Saeed Ebrahim
Eiliwyd gan: Y Cyng. Jen Burke-Davies
Mae’r Cyngor hwn yn nodi:
Bod Syr Thomas Picton yn cael ei ddathlu ar ffurf cerflun yn y Neuadd Farmor fel rhan o gasgliad Arwyr Cymru.
Bod y digwyddiadau wedi dwyn sylw ehangach at ymddygiad Picton a’i rôl yn y fasnach mewn caethweision dros yr Iwerydd - gan gynnwys yr enw oedd ganddo o fod yn ddyn penodol greulon, a’i euogfarn am arteithio merch 14 oed yn anghyfreithlon.
Yn y bleidlais gyhoeddus yn 1913, ni phleidleisiodd y cyhoedd i Syr Thomas Picton gael ei gynnwys ymysg y cerfluniau yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
Bod Caerdydd yn ddinas amrywiol a chroesawgar
Mae'r Cyngor hwn yn credu:
Bod ymddygiad Picton fel Llywodraethwr Trinidad yn atgas, hyd yn oed yn ei oes ei hun, ac nad yw’n haeddu lle yng nghasgliad Arwyr Cymru.
Bod angen i’r broses o greu mwy o ymwybyddiaeth am hanes caethwasiaeth gynnwys ailasesiad o’r parch rydym yn ei ddangos tuag at Picton, a llawer o bobl eraill a oedd yn cymryd rhan mewn caethwasiaeth ac a oedd yn elwa ohoni.
Yr oedd, gan edrych yn ôl, yn gamgymeriad cynnwys Picton fel dewis yn y bleidlais gyhoeddus yn 1916, ac yn gamgymeriad nad oedd wedi’i dynnu’n gynharach.
Y bydd y penderfyniad democrataidd, gan gynrychiolwyr pobl Caerdydd, i symud y cerflun yn anfon neges at bobl Ddu yng Nghaerdydd a ledled y byd bod y ddinas yn cydnabod y rôl yr oedd pobl fel Picton yn ei chwarae yn y fasnach mewn caethweision a bod rhaid i ni fynd i’r afael â’r hiliaeth systematig sy’n dal i fodoli oherwydd caethwasiaeth ac Ymerodraeth.
Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:
· Tynnu cerflun Syr Thomas Picton o’r Neuadd Farmor ac ystyried ei roi’n rhywle arall gydag esboniad clir o’i weithredoedd.
· Croesawu cyflwyno Tasglu gan yr Arweinydd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb y mae pobl BAME yn ei wynebu a chynnwys cynrychiolaeth gan gymunedau Du Caerdydd.
· Gweithredu argymhellion y Tasglu
· Bod bywydau Du o bwys, ac na fydd unrhyw un ohonom ni’n gyfartal nes y bydd pob un ohonom ni’n gyfartal.
Dogfennau ategol: