Craffu, mesur a hybu gwelliant ym mherfformiad y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau a chydymffurfio â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes adfywio economaidd.
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mewnfuddsoddiad a marchnata Caerdydd
Strategaeth Economaidd a Chyflogaeth
Cyllid Ewropeaidd a Buddsoddiad
Cymorth i Fentrau Bychan i Ganolig
Awdurdod Harbwr Caerdydd
Dysgu Gydol Oes
Canolfannau Hamdden
Datblygu Chwaraeon
Parciau a Mannau Gwyrdd
Llyfrgelloedd, y Celfyddydau a Diwylliant
Adeiladau Dinesig
Digwyddiadau a Thwristiaeth
Projectau Strategol
Arloesedd a Chanolfannau Technoleg
Hyfforddiant Lleol a Menter
Asesu effaith ein partneriaethau â sefydliadau allanol, adnoddau a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus dan Nawdd Llywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.