Penderfyniad:
Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD:
1. y dylid nodi’r cynnydd mewn perthynas â bodloni gofynion Rhan 9, gan gynnwys sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal
2. cymeradwyo sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal i bobl h?n, gyda Chyngor Caerdydd yn gweithredu fel sefydliad cynnal fel y nodir yn yr adroddiad. Bydd trefniadau o'r fath yn weithredol o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
3. y dylid rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar y Gytundeb Partneriaeth (gan gynnwys gosod yr un peth) ac unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol
4. cymeradwyo Datganiad Sefyllfa’r Farchnad a’r Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth Pobl H?n fel y nodir yn Atodiad 1
Cofnodion:
Mae Atodiad 2 i’r adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn dilyn darpariaethau Paragraff 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Ystyriwyd adroddiad yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer comisiynu ar y cyd gwasanaethau pobl h?n ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Cynigiwyd y bydd Caerdydd yn cynnal y gyllideb gyfun rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. I gychwyn, cyfrifoldeb y tri sefydliad hyn byddai comisiynu a thalu am y gwasanaethau yn y flwyddyn gyntaf.
PENDERFYNWYD:
1. nodi’r cynnydd o ran bodloni gofynion Rhan 9 sy’n cynnwys sefydlu cyllideb gyfun ar gyfer llety gofal
2. cymeradwyo'r broses o sefydlu cyllideb gyfun ar gyfer llety gofal i bobl h?n, gyda Chyngor Caerdydd yn sefydliad sy'n lletya fel y manylwyd yn yr adroddiad, a bod trefniadau o'r fath yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.
3. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn ymdrin â holl agweddau ar y Cytundeb Partneriaeth (gan gynnwys eu gosod) ac unrhyw faterion ategol cysylltiedig.
4. Cymeradwyo’r Datganiad Sefyllfa Marchnad a’r Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth ar gyfer Pobl H?n, fel y nodwyd yn Atodiad 1
Dogfennau ategol: