Manylion y mater

Cydgomisiynu a Chydgyllideb Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn

Mae Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn am sefydlu cronfeydd cronnol mewn perthynas â llety gofal i bobl h?n erbyn 6 Ebrill 2018. Mae hyn yn cynnwys Gofal Iechyd Parhaus, Gofal Nyrsio wedi’i Ariannu a chyfrifoldebau’r awdurdod lleol dros leoliadau tymor hir. Disgwylir i hyn fod oddeutu £46.1m - £33.9m yng Nghaerdydd.

 (£22m Cyngor Caerdydd + £11.9m Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) a £12.3m ym Mro Morgannwg (£6.3m Cyngor Bro Morgannwg a £5.9m Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) Diben y gofyniad hwn yw i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yn cydweithio i wneud y mwyaf o’u dylanwad ar ddatblygu gwasanaethau i’r dyfodol, gan gynnwys sicrhau bod capasiti digonol ac ystod priodol o wasanaethau o safon i ateb y galw.

Bydd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y dull arfaethedig ledled Caerdydd a’r Fro i geisio cymeradwyaeth ar drefniadau rheoli manwl

fydd yn cael eu datblygu erbyn mis Ebrill 2018.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/01/2018

Angen Penderfyniad: 18 Ion 2018 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Scrutiny Consideration: Ambr

Penderfyniadau

Eitemau Agenda