Mae Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth
Parc Maendy’n cynnwys 3 aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau
a Moeseg ac mae ganddo'r cylch gorchwyl canlynol:
(a) i ystyried a
ddylai'r gyfnewid tir a gynigiwyd gan Gyngor Caerdydd, yn rhinwedd
ei swydd statudol fel awdurdod lleol, gael ei gytuno gan
Ymddiriedolaeth Parc Maendy ('yr Elusen'), gan roi sylw i
fuddiannau gorau'r Elusen a'i buddiolwyr, a'r holl dystiolaeth
berthnasol yn hyn o beth, gan gynnwys (ond heb gyfyngiad) i gyngor
prisio annibynnol ar y tir a'r safbwyntiau perthnasol a gyflwynwyd
mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn;
ac
(b) i wneud argymhelliad
i'r Cabinet, yn rhinwedd ei swydd fel Ymddiriedolwr yr Elusen, ar a
ddylid cytuno ar y gyfnewid tir arfaethedig ai peidio (yn amodol ar
gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau).