Mae Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy’n cynnwys 3 aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg ac mae ganddo'r cylch gorchwyl canlynol:
(a) i ystyried a ddylai'r gyfnewid tir a gynigiwyd gan Gyngor Caerdydd, yn rhinwedd ei swydd statudol fel awdurdod lleol, gael ei gytuno gan Ymddiriedolaeth Parc Maendy ('yr Elusen'), gan roi sylw i fuddiannau gorau'r Elusen a'i buddiolwyr, a'r holl dystiolaeth berthnasol yn hyn o beth, gan gynnwys (ond heb gyfyngiad) i gyngor prisio annibynnol ar y tir a'r safbwyntiau perthnasol a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn; ac
(b) i wneud argymhelliad i'r Cabinet, yn rhinwedd ei swydd fel Ymddiriedolwr yr Elusen, ar a ddylid cytuno ar y gyfnewid tir arfaethedig ai peidio (yn amodol ar gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau).
Clerc: Mandy Farnham.
Ffôn: 02920 872618
E-bost: Mandy.Farnham@Caerdydd.gov.uk