Cyflawni swyddogaethau’r awdurdod mewn perthynas â
phenodi a diswyddo Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion (fel y
diffinnir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog)
(Cymru) 2006) a Phennaeth Statudol y Gwasanaethau Democrataidd yn
unol â Rheolau a Gweithdrefnau Cyflogi a pholisïau a
gweithdrefnau perthnasol eraill y Cyngor.
Bydd
angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant
perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n
briodol.