Cydbwyllgor Archifau Morgannwg
Caiff Archifau Morgannwg
ei weinyddu gan Gydbwyllgor Archifau Morgannwg (CBAM), Pwyllgor o
Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig sy’n cwrdd bedair gwaith y
flwyddyn. Cylch gwaith y pwyllgor yw
datblygu a chynnal gwasanaeth archifau ar y cyd ar gyfer y chwech
awdurdod lleol sef Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful,
Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
Caiff y nifer yr aelodau
etholedig a ddyrennir i wasanaethu ar
gyfer pob awdurdod lleol ei benderfynu ar sail pro-rata yn ôl y boblogaeth.
Pen-y-bont – 2 Aelod
Caerffili – 2 Aelod
Caerdydd – 5 Aelod
Merthyr Tudful – 1 Aelod
Rhondda Cynon Taf – 4
Aelod
Bro Morgannwg – 2 Aelod
Gall hyd at 6 pherson
â diddordeb mewn archifau a chofnodion gael eu cyfethol gan y
Pwyllgor am gyfnod o ddim mwy na 4 blynedd.