Rôl y Pwyllgor hwn yw craffu, mesur ac adolygu
gweithrediad cyffredinol Rhaglen Caerdydd ar gyfer Gwella a pha mor
effeithiol ar y cyfan y caiff polisïau, nodau ac amcanion y
Cyngor eu gweithredu, gan gynnwys:
Rheoli
Busnes y Cyngor a Materion Cyfansoddiadol
Cynllun
Corfforaethol Cyngor Caerdydd
Datblygu Polisi Strategol
Rhaglenni Strategol
Fforwm
Cynllunio a Gweledigaeth Cymunedol
Cysylltiadau yn y Sector Gwirfoddol
Ymgysylltu ac Ymgynghori â Dinasyddion
Cyfathrebu Corfforaethol
Polisi
Rhyngwladol
Cynllun
Datblygu Lleol Caerdydd
Cydraddoldeb
Cyllid
a Grantiau Corfforaethol
Datblygu Sefydliadol
Rhaglen
Effeithlonrwydd Caerdydd
E-Lywodraeth
ITechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Eiddo’r
Cyngor
Comisiynu a Chaffael
Rheoli
Carbon
Gwasanaethau Cyfreithiol
Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus
Craffu,
monitro ac adolygu effeithiolrwydd systemau rheoli a gweinyddu
ariannol y Cyngor a’r defnydd o adnoddau dynol.
Asesu
effaith
partneriaethau gyda ac adnoddau a gwasanaethau a ddarperir gan
sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau ar
y cyd llywodraeth leol, Cyrff Cyhoeddus a Ariennir gan Lywodraeth
Cymru a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar effeithiolrwydd
gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd
i gyfarfod priodol y Cabinet neu’r Cyngor ar ei ganfyddiadau
a gwneud argymhellion ar fesurau a all wella perfformiad y Cyngor a
darpariaeth gwasanaeth yn y maes hwn