Mater - cyfarfodydd

Homelessness - The Response To The Covid 19 Crisis And Delivering The Future Service Model

Cyfarfod: 16/07/2020 - Cabinet (Eitem 6.)

6. Digartrefedd - Yr Ymateb i Argyfwng COVID-19 a Cyflawni Model Gwasanaeth y Dyfodol pdf eicon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi’r camau sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith i sicrhau llety digartref parhaol ychwanegol i gymryd lle darpariaeth dros dro a sicrhau na fydd llai o wasanaethau ar gael i ddefnyddwyr wrth i fesurau’r cyfnod cloi’n gael eu llacio

 

2.   cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau digartref fel y nodir yn yr adroddiad gan gynnwys yr angen i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar gyllid parhaus i sicrhau bod y strategaeth “Dim Mynd yn Ôl” ar gyfer pobl ddigartref sengl yn gynaliadwy

 

3.   nodi, os na cheir swm y cyllid a nodir yn yr adroddiad, y bydd angen adolygu a newid y dewisiadau ar gyfer cynlluniau i gyflawni costau gweithredu is ac sydd o fewn y cyllidebau sydd ar gael, bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar effeithiolrwydd cyffredinol y dull.

 

4.   cymeradwyo rhoi contract i Beattie Passive i greu 50 uned lety dros dro ar safle’r Ffatri Nwy am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad hwn. 

 

5.   dirprwyo cyfrifoldeb am brydlesu eiddo domestig preifat dan Gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru i’r Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Cynorthwyol yn dilyn cyngor priodol gan yr adran Ystadau Strategol.