Mater - cyfarfodydd

Adnewyddu'r Fflyd o gerbydau Gwastraff, ysgubwyr stryd a cherbydau llwytho â bach - Atal a Chaffael

Cyfarfod: 15/11/2018 - Cabinet (Eitem 5.)

5. Adnewyddu'r Fflyd Llwythwyr Gwastraff a Bachog - Ailgaffael (Lot 1) gyda Model Gwasanaethau Cynnal a Chadw mewnol newydd pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chyhoeddir Atodiad A yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 Rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)      Nodi cynnwys yr adroddiad

 

2)      Awdurdodi swyddogion i ddwyn Lot 1 yr ymarfer caffael i ben.

 

3)      Yn unol â Fframwaith Cyllideb y Cyngor, rhwymo gwariant o hyd at £500,000 mewn perthynas â’r blynyddoedd a ddaw er mwyn cynorthwyo’r dull caffael ar gyfer y fflyd cerbydau trymion â threfniadau cynnal a chadw a gwasanaethu mewnol.

 

4)      Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth ac Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu ac Amgylchedd, Adran 151 y Cyngor a’r Swyddogion Monitro i:-

5)       

a)  gymeradwyo cychwyn y broses gaffael a chyflwyno dogfennaeth;

b)  cynnal trefniadau fframwaith dros dro; a

c)  ymdrin yn gyffredinol â holl agweddau’r broses gaffael a’r materion cysylltiedig hyd at ac yn cynnwys dyfarnu’r contract.