8. Premiymau a Gostyngiadau Eiddo gwag y Dreth Gyngor PDF 213 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
(1) Nodi’r ffaith bod eiddo sy’n wag yn hirdymor yn effeithio’n negyddol ar gymunedau;
(2) Argymell bod y Cyngor yn atal y gostyngiad cyfredol gan 50% sydd ar Dreth Gyngor anheddau heb breswylwyr a heb ddodrefn o 31 Mawrth 2019. Golyga hyn na fydd gostyngiad ar gyfer yr anheddau hyn o 1 Ebrill 2019.
(3) Cynnal ymarferiad ymgynghori ar osod premiwm treth gyngor ar gyfer anheddau sy’n wag yn hirdymor.
(4) ystyried canlyniadau’r ymarfer ymgynghori mewn cyfarfod y Cabinet yn y dyfodol er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol yn y Cyngor yn gynnar yn 2019.