Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion Cyfarfodydd y Cabinet a Gynhaliwyd ar 9 a 24 Ionawr PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd
|
|
Cynllun Corfforaethol PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2019-22 i’w ystyried gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2019;
2. argymell bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2019-22 (Atodiad A) yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 28 Chwefror 2019 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2019; a
3. Argymell y Cyngor i ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i benderfynu ar addasiadau canlyniadol i’r Crynodeb Gofod Targedau Perfformiad 2019/20 (Atodiad B) yn dilyn canlyniadau perfformiad chwarter 4 2018/19.
|
|
Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) PDF 181 KB Penderfyniad: Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo sefydlu corff cymeradwyo SDCau yn y Tîm Rheoli Risg Arfordirol
2. dirprwyo cyfrifoldeb Corff Cymeradwyo SDCau i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd er mwyn gallu dirprwyo penderfyniadau i raddau mwy helaeth
3. Dirprwyo awdurdod dros osod lefelu ffioedd disgresiwn sy’n gysylltiedig â’r corff cymeradwyo i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog Adran 151. 4.
|
|
Premiymau Treth Gyngor PDF 193 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: argymell bod y Cyngor yn cytuno i godi Premiwm Treth Gyngor o 50% ar anheddau sy’n wag a heb ddodrefn gan fwyaf am gyfnod hwy na 12 mis, o 1 Ebrill 2019.
|
|
Monitro Cyllideb - Adroddiad 9 Mis PDF 363 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi sefyllfa alldro posibl ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol.
2. Gofyn bod yr holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad, i gymryd camau gweithredu i ostwng y gorwario a ragfynegir. 3. 4. cymeradwyo, mewn egwyddor, trosglwyddo arian dros ben gwerth £917,000 a ragfynegir i Gronfa Wrth Gefn Strategol y Gyllideb ddiwedd y flwyddyn, yn dibynnu ar sefyllfa alldro 2018/19.
|
|
Adroddiad Perfformiad Chwarter 3, 2018-19 PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau yn Chwarter 3, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â materion sy’n achos pryder. |
|
Cynigion ar gyfer Cyllideb 2019/20 PDF 957 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Adroddiad y Gyllideb 2019/20
Ni fydd Atodiadau 10(c) yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
wedi ystyried sylwadau Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r gyllideb ac addasrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, mae’r Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwneud y canlynol:
1.0 Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 4.9% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau'r termau canlynol.
2.0 Nodi y cyfrifodd y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018 y nifer canlynol o anheddau ar gyfer blwyddyn 2019/20 yn unol ag Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) 145,499 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Llinell Waelod y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel isafswm y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
b) Llysfaen c) 2,409 Pentyrch 3,280 Radur 3,783 Sain Ffagan 1,423 Pentref Llaneirwg 1,828 Tongwynlais 817
y rhifau a ddosbarthwyd yn unol â Rheoliad 6 fel swm llinell waelod Treth Gyngor y flwyddyn ar gyfer anheddau yn rhannau’r ardal y mae eitemau arbennig yn gysylltiedig â nhw.
2.1 Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2019/20 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n £396,847). b) £1,026,046,847 c) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c). £405,161,000
d) Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) yn fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer cyllideb y flwyddyn. £620,885,847
e) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu. £444,629,480
f) Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn. g) £1,213.80
h) Cyfansymu swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1). i) £396,847
j) Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu'r canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, ... view the full Penderfyniad text for item 7. |