Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Daw Atodlen 3 Deddf Rheoli D?r a Llifogydd 2010 i rym
ar 7 Ionawr 2019. O’r dyddiad hwn ymlaen:
· Rhaid i bob datblygiad o fwy nag 1 t? neu pan yw’r ardal adeiladu dros 100m2 neu fwy, fod â systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli d?r wyneb;
· Rhaid i systemau draenio pob datblygiad newydd gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau SDC statudol;
· Bydd awdurdodau lleol yn dod yn Gyrff Cymeradwyo SDC (CCS);
· Rhaid i gynlluniau SDC gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl CCS cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.
· Bydd dyletswydd ar y CCS i fabwysiadu SDC sy’n cydymffurfio ar yr amod eu bod wedi eu hadeiladu ac yn gweithio yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyo gan CCS.
Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo sefydlu corff cymeradwyo SDCau yn y Tîm Rheoli Risg Arfordirol
2. dirprwyo cyfrifoldeb Corff Cymeradwyo SDCau i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd er mwyn gallu dirprwyo penderfyniadau i raddau mwy helaeth
3. Dirprwyo awdurdod dros osod lefelu ffioedd disgresiwn sy’n gysylltiedig â’r corff cymeradwyo i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog Adran 151.
4.
Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 21/02/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/02/2019 - Cabinet
Effeithiol O: 06/03/2019
Dogfennau Cefnogol: