Daw Atodlen 3 Deddf Rheoli D?r a Llifogydd 2010 i rym
ar 7 Ionawr 2019. O’r dyddiad hwn ymlaen:
· Rhaid i bob datblygiad o fwy nag 1 t? neu pan yw’r ardal adeiladu dros 100m2 neu fwy, fod â systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli d?r wyneb;
· Rhaid i systemau draenio pob datblygiad newydd gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau SDC statudol;
· Bydd awdurdodau lleol yn dod yn Gyrff Cymeradwyo SDC (CCS);
· Rhaid i gynlluniau SDC gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl CCS cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.
· Bydd dyletswydd ar y CCS i fabwysiadu SDC sy’n cydymffurfio ar yr amod eu bod wedi eu hadeiladu ac yn gweithio yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyo gan CCS.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 18/01/2019
Angen Penderfyniad: 21 Chwe 2019 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr