Yn unol ag Adran 89 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) 2016, mae angen i’r Cyngor adolygu’r polisi Derbyn i Ysgolion bob blwyddyn.
Fel rhan o hyn, mae'r Cyngor wedi ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Bolisi Derbyn i Ysgolion 2024/25. Mae'r newidiadau'n cynnwys y bwriad i ehangu trefniadau derbyniadau cydlynol i Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog. Rhaid penderfynu ar Drefniadau Derbyn i Ysgolion er mwyn eu rhoi ar waith ym mis Medi 2023
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut y dylid bwrw ymlaen.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 17/01/2023
Angen Penderfyniad: 23 Maw 2023 Yn ôl Cabinet
Scrutiny Consideration: green