Yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin 2021 fe wnaeth y Cabinet awdurdodi swyddogion i gyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet i’w ystyried, gan nodi manylion cynigion diwygiedig ar gyfer newidiadau parhaol i leoedd mewn ysgolion cynradd sy'n gwasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.
Diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynigion wedi’u diwygio.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 27/09/2022
Angen Penderfyniad: 23 Chwe 2023 Yn ôl Cabinet