Mae eiddo BISF yn 'anodd eu trin' ac yn 'anodd eu gwresogi'. Gyda chyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru, mae eiddo BISF yng Nghaerau wedi'i wella, ond mae eiddo BISF yn Ystum Taf a Thredelerch yn dal i fod angen gwaith effeithlonrwydd ynni i helpu i liniaru tlodi tanwydd a datgarboneiddio. Mae'r Cyngor wedi bod yn ceisio cael cyllid allanol i'r eiddo ers nifer o flynyddoedd i wneud cynllun hyfyw. |
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant (yn amodol ar dderbyn achos busnes sydd ar y gweill) ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer yr eiddo BISF sydd heb ei wella'n breifat yn Ystum Taf a Thredelerch (cyfanswm o 151 o gartrefi) ac mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu ariannu'r gwelliannau ar gyfer eiddo'r Cyngor yn yr un ardal (100 o gartrefi). Bydd Cyngor Caerdydd yn datblygu'r cynllun fel cynllun deiliadaeth gymysg gyfannol ac yn cynnal ymarfer caffael i benodi darparwr i ymgysylltu â'r trigolion a chyflawni'r gwelliannau
Math o fusnes: Key
Statws: Ar gyfer Penderfyniad
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 17/06/2022
Angen Penderfyniad: 23 Chwe 2023 Yn ôl Cabinet
Scrutiny Consideration: Greevn