Yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2021, awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar gynigion i ehangu Ysgol Arbennig The Court.
Yn ei gyfarfod ar 14 Hydref 2021, awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar gynigion i ehangu ysgol Arbennig Greenhill, ac i sefydlu Canolfannau Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain.
Nodwyd y byddai swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriadau i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, ynghyd ag argymhellion ar sut y dylid bwrw ymlaen.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/01/2022
Angen Penderfyniad: 10 Maw 2022 Yn ôl Cabinet