Manylion y mater

Polisi cyfarfodydd aml-leoliad

Dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae angen i awdurdodau lleol sefydlu a chyhoeddi trefniadau ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad, hynny yw, cyfarfodydd ffurfiol nad yw’r rheiny sy’n cymryd rhan ynddynt i gyd yn yr un lle.  Mae trefniadau hyn yn cynnwys y rheolau a'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol yn unol â'r gofynion statudol, a dylent gael eu hadlewyrchu yng Nghyfansoddiad y Cyngor

Ochr yn ochr â'r trefniadau sydd wedi'u mandadu'n gyfreithiol y mae'n rhaid i awdurdodau eu gwneud ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad, dylai awdurdodau ddatblygu polisi ehangach sy'n nodi'r systemau manwl a ddewiswyd gan yr awdurdod ar gyfer gweithredu ei gyfarfodydd aml-leoliad. Dylid datblygu'r polisi hwn mewn ymgynghoriad â phawb sy’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd, gan gynnwys y cyhoedd.  

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/01/2022

Angen Penderfyniad: 10 Maw 2022 Yn ôl Cabinet

Eitemau Agenda