Ym mis Mai 2021, penderfynodd y Cabinet y dylid cymeradwyo'r 'Strategaeth Adfer ac Adnewyddu Dinas Wyrddach, Decach, Gryfach' (gan ganolbwyntio ar sut y dylai'r ddinas ymateb i'r pandemig byd-eang) at ddibenion ymgysylltu. Cynhaliwyd y broses ymgysylltu hon yn ystod yr haf, a chaiff y canlyniadau eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Rhagfyr.
Roedd Cenhadaeth 1 yn ymwneud ag ail-ddychmygu canol y ddinas ar ôl y pandemig.
Mae adborth o'r broses ymgysylltu wedi'i ymgorffori wrth baratoi Gweledigaeth Adfer Canol y Ddinas, sy'n nodi cyfres o uchelgeisiau, egwyddorion a dulliau, yn ogystal â chyfres o brosiectau arfaethedig i helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hynny.
Defnyddir y ddogfen yn ganllaw i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu prosiectau, rhaglenni a mentrau byrdymor i dymor canolig unigol sy'n ymwneud ag adfer canol y ddinas.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 10/12/2021
Angen Penderfyniad: 20 Ion 2022 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr