Manylion y mater

Strategaeth Cymorth Tai a Digartrefedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gofyniad newydd ar waith i bob awdurdod lleol ddatblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai. Rhaid datblygu hon bob pedair blynedd, gydag adolygiad yng nghanol y cyfnod hwn, sef bob dwy flynedd.  Dylai amlinellu cyfeiriad strategol yr awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau cymorth tai.

 

Bydd yn rhoi un farn strategol ar ddull yr awdurdod lleol o atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai, a dyma fydd yr unig ddogfen strategol am gymorth tai ac atal digartrefedd. Rhaid iddi hefyd fodloni'r gofynion statudol presennol ar gyfer strategaeth ddigartrefedd dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Bydd y Strategaeth yn ystyried sut y gall gefnogi'r gwaith o gyflawni gweledigaeth a nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer atal digartrefedd a'r newid trawsnewidiol sydd ei angen i symud i ddull ailgartrefu cyflym.

 

Bydd hyn yn cymryd lle’r Strategaeth Ddigartrefedd bresennol ar gyfer 2018 - 2022 a’r Strategaeth Cysgu ar y Stryd bresennol ar gyfer 2017 - 2020.

 

Rhagwelir y bydd y Strategaeth newydd yn ymgorffori'r weledigaeth newydd ar gyfer digartrefedd a chymorth tai a nodwyd eisoes mewn adroddiadau cabinet blaenorol yn rhan o'r ymrwymiad Dim Mynd Nôl.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/11/2021

Angen Penderfyniad: 20 Ion 2022 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau

Prif Gyfarwyddwr: Director of Adults Services, Housing & Communities

Scrutiny Consideration: Amber

Eitemau Agenda