Manylion y mater

Digonolrwydd Gofal Plant Dwyieithog

Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i "baratoi a chyhoeddi asesiadau o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn ei ardal".

 

Rhaid paratoi a chyhoeddi'r Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) bob pum mlynedd. Fodd bynnag, yn dilyn pandemig Covid-19, bydd rhaid cyflwyno'r ADGP llawn newydd i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2022.

 

Mae'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cysylltiedig yn nodi mai'r tasgau allweddol y mae angen i'r Awdurdod Lleol eu cyflawni i asesu'r cyflenwad gofal plant yw:

      nodi'r galw am ofal plant

      dadansoddi a oes bylchau a datblygu cynllun gweithredu i gyflawni dyletswydd yr Awdurdod Lleol i sicrhau, "i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, ofal plant digonol i fodloni anghenion lleol rhieni (hynny yw y rhieni sy'n gweithio neu sy'n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant) i'w cynorthwyo i gael gwaith".

 

Rhaid ystyried teuluoedd sy'n dymuno cael gofal plant:

      trwy’r Gymraeg

      i blant ag anabledd neu angen ychwanegol

      i'r rheiny sy'n dymuno cael gofal plant, a ariennir trwy Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant, talebau a gefnogir gan gyflogwyr neu ofal plant di-dreth, a theuluoedd incwm is.

 

Gofal plant: canllawiau statudol i awdurdodau lleol (llyw.cymru) https://www.legislation.gov.uk/wsi/2016/88/made

 

Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r ADGP drafft gael ei gyhoeddi'n ddwyieithog ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 diwrnod ar gyfer ymgynghori ac i gael adborth gan randdeiliaid, a rhaid i'r awdurdod lleol "ddiwygio'r asesiad drafft yn y fath fodd ag y mae’n ei ystyried yn briodol mewn ymateb i unrhyw sylwadau a dderbynnir".

Gofynnir am gymeradwyaeth i gyfieithu ADGP drafft Caerdydd ac i’w roi ar wefan Cyngor Caerdydd ar gyfer y cyfnod ymgynghori statudol o 28 diwrnod

 

Ceisir cymeradwyaeth i bwerau swyddogion dirprwyedig gymeradwyo'r fersiwn ôl-ymgynghori i'w chyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru erbyn Mehefin 2022

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/11/2021

Angen Penderfyniad: 20 Ion 2022 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoed

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Scrutiny Consideration: Green

Eitemau Agenda