Diben yr adroddiad yw:
(i) Rhoi diweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CbCau) fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
(ii) Ystyried Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru 2021 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, yngl?n â sefydlu a gweithredu CbCau, gyda'r swyddogaethau lles economaidd, trafnidiaeth a chynllunio strategol yn dod i fodolaeth ar 28 Chwefror 2022; ac
(iii) Ystyried Adroddiad Cabinet Cyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) sy'n nodi sut y bydd swyddogaethau'r Cydbwyllgor presennol yn cael eu trosglwyddo i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CbC) ar 1 Mawrth 2022.
(iv) Nodi’r argymhellion o ran hyn a'r camau nesaf yn ymwneud â gweithredu'r CBC a'r trefniadau newydd a fydd yn cael eu hadrodd i'r Cyngor i gael rhagor o wybodaeth a, lle y bo'n berthnasol, cymeradwyaeth, yn ystod y misoedd nesaf.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 08/10/2021
Angen Penderfyniad: 20 Ion 2022 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Arweinydd y Cyngor
Prif Gyfarwyddwr: Prif Weithredwr
Scrutiny Consideration: Green/Gwyrdd