Mae Willis Construction wedi caffael hen adeilad Morrisons ym Mhentwyn i gyflawni datblygiad cytundeb pecyn yn cynnwys 28 o fflatiau i Gyngor Caerdydd. Bydd y 28 o fflatiau’n cynnwys 9 fflat un ystafell wely a 19 fflat dwy ystafell wely. Maent wedi bod yn datblygu'r cynigion drwy'r broses cyn gwneud cais gyda’r adrannau Cynllunio a Draenio ac mae ganddynt gymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer y cynllun y maent am ei gyflwyno ar gyfer cynllunio.
Y bwriad yw y bydd Willis yn dechrau ar y safle yn haf 2021 ac wedyn yn cyflawni rhaglen adeiladu 60 wythnos o hyd gan gwblhau yn haf 2022 yn rhan o'n targed cyflawni.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 11/06/2021
Angen Penderfyniad: 15 Gorff 2021 Yn ôl Cabinet