Bydd yr adroddiad yn nodi manylion y ceisiadau am arian gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CAC) Llywodraeth y DU yn 2021/22, a dderbyniwyd gan y Cyngor o sefydliadau allanol sy'n dymuno gweithredu yng Nghaerdydd. Caiff y ceisiadau a gyflwynir eu hasesu gan y Cyngor yn unol â meini prawf a blaenoriaethau'r porth a nodir ym mhrosbectws y CAC, yn ogystal â'r graddau y maent yn cyflawni blaenoriaethau twf a chymorth cyflogaeth lleol. Bydd y Cyngor wedyn yn cyflwyno'r ceisiadau a aseswyd a'r ceisiadau cymwys hynny sy’n bodloni'r meini prawf hyn fwyaf i Lywodraeth y DU erbyn hanner dydd ar 18 Mehefin 2021. Bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion prosiectau i'w cyflwyno gan Gyngor Caerdydd yng nghylch cyntaf Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer arian posibl yn 2021/22.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/05/2021
Angen Penderfyniad: 17 Meh 2021 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Scrutiny Consideration: Amber