Dylai’r Cabinet gymeradwyo'r Cytundeb Partneru Strategol â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru er mwyn hwyluso’r ffordd y caiff cyfleusterau addysg a chymunedol eu cynnig trwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru am y rhesymau canlynol:
· Credir bod Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru yn fodel cyflawni sy’n cynnig gwerth am arian;
· Mae’r Cytundeb Partneru Strategol â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru er mwyn hwyluso’r ffordd y caiff cyfleusterau addysg a chymunedol eu cynnig yn gyson ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru ac yn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni projectau yn y dyfodol;
· Prin yw'r risg fasnachol i'r Cyngor hyd nes y caiff projectau eu datblygu dan y Broses Cymeradwyo Project Newydd.
Cynigir dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes fel y nodir yn argymhelliad d. Mae hyn er mwyn caniatáu gwneud unrhyw fân newidiadau i’r Cytundeb Partneru Strategol fel y nodir yn nhroednodiadau Atodiad 1 ac i sicrhau bod unrhyw ddiweddariadau pellach yn adlewyrchu cyngor a roddwyd yn ogystal â chwblhau unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Cytundeb.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 03/07/2020
Angen Penderfyniad: 16 Gorff 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
Scrutiny Consideration: Amber